Yn system addysg Cymru, mae ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ (YSD) yn parhau i fod yn un o gonglfeini’r polisi addysg presennol. Mae’r erthygl hon yn ystyried rhywfaint o’r sylfaen dystiolaeth allweddol neu (rai o’r sylfeini tystiolaeth allweddol) sy’n cysylltu â’r model YSD yng Nghymru ac sy’n sail iddo. Nid adolygiad o’r llenyddiaeth yw hwn ond yn hytrach trosolwg o’r brif dystiolaeth empirig sy’n atgyfnerthu’r dull YSD yng Nghymru. Mae’r erthygl yn tynnu sylw at y ffaith bod sylfaen dystiolaeth gefnogol ac empirig ar gyfer pob un o 7 dimensiwn model YSD Cymru. Daw i’r casgliad, fodd bynnag, fod angen mwy o ganllawiau ymarferol, yn enwedig ynghylch prosesau gweithredu, i gynorthwyo ysgolion ar eu taith tuag at ddod yn sefydliadau sy’n dysgu cryfach.