“…O ganlyniad i ethos o’r fath, gellir cael mwy o orbryder cysylltiedig ag asesu (Sommer a Arendasy, 2015), tuedd i fabwysiadu gogwydd at gyflawni nodau (von der Embse et al , 2018) a thuedd at ddysgu arwynebol yn hytrach na dysgu dwfn (Vandewalle et al , 2019). Gyda golwg ar athrawon, mae’r llenyddiaeth ar gyfeiriadaeth a phrofiadau athrawon mewn amgylcheddau o’r fath yn dangos bod arferion perfformiadol yn cael eu defnyddio’n aml, yn cynnwys addysgu ar sail profion drwy gyfyngu’r cwricwlwm a rhoi blaenoriaeth i gynnwys a asesir (Popham, 2000; Segal et al , 2017), yn ogystal â gorddefnyddio papurau arholiad blaenorol fel techneg paratoi ar gyfer asesu (Firestone et al , 2004; Crocker, 2005). Mae’r arferion hyn, y gellir eu priodoli i gyplysu deilliannau asesu ag atebolrwydd athrawon ac ysgolion o ganlyniad i ddiwygio seiliedig ar safonau, wedi arwain at systemau lle mae asesiadau’n cael gormod o ddylanwad ar yr hyn a addysgir yn yr ystafell ddosbarth (Brown, 2004).…”