Mae Cymru ynghanol ei chyfnod o ddiwygio addysgol mwyaf erioed, a hynny ar ffurf cwricwlwm newydd. Mae’r diwygio hwnnw wedi arwain at amlygiad themâu niferus o hunaniaeth a chenedl, a’r defnydd ohonynt. Mae’r erthygl hon yn defnyddio dadansoddiad disgwrs Foucauldaidd i arch wilio lluniad disgyrsiol hunaniaeth genedlaethol wrth greu’r cwricwlwm newydd. Trwy leoli ac archwilio sut y caiff hunaniaeth dysgwyr ei godd rychu, mae’r papur yn trafod y potensial ar gyfer hunaniaeth a pherthyn o fewn y cwricwlwm newydd. Mae’n nodi hunaniaeth fel rhywbeth amry wiol, newidiol, gofodol a strategol, ac yn archwilio canlyniadau posibl y lluniadau disgyrsiol hyn. Mae’r canfyddiadau’n datgelu bod disgyrsiau o’r fath yn rhyngweithio â’i gilydd, ac yn gysylltiedig â’i gilydd, ond bod potensial iddynt wrthdaro a gwrthddweud ei gilydd hefyd. Mae’r prosiect yn nodi llawer o gymhlethdodau ac arlliwiau o ran themâu hunaniaeth a pherthyn o fewn y cwricwlwm newydd. Mae’r gwaith yn canfod potensial i berthyn yn ogystal â rhwystrau fel dieithrio ac allgáu. Yn olaf, mae’n gofyn am rywfaint o bwyll ynglŷn â’r syniad bod modd i bob dysgwr oresgyn y rhwystrau hyn wrth weithredu’r cwricwlwm newydd.