Roedd yr ymchwil hon yn archwilio profiadau 10 rhiant-lywodraethwr mewn ysgolion sydd wedi’u lleoli mewn cymuned ddifreintiedig yng nghymoedd de Cymru. Cynhaliwyd yr astudiaeth yn ystod rhaglen ddiwygio, lle ystyriwyd nad oedd arferion sefydledig yn gallu bodloni gofynion llywodraethu cyfoes. Mae’n datgelu absenoldeb llais y rhiant yn arweinyddiaeth ac atebolrwydd ysgolion, natur y cydsyniad hwnnw a’i oblygiadau o safbwynt ymarferol a damcaniaethol llywodraethu ysgolion fel ymgymeriad cydweithredol. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ddefnyddio dulliau cymysg. Roedd y gwaith o gasglu data yn defnyddio cyfweliad lled-strwythuredig wedi’i ategu gan un holiadur agored ac un caeedig. Nododd dull thematig batrymau cyffredin i fynd i’r afael â’r cwestiwn ymchwil: ‘Sut mae profiadau rhiant-lywodraethwyr ysgol gynradd mewn cymuned ddifreintiedig yn Ne Cymru yn cyfrannu at ein dirnadaeth o lywodraethu ysgolion?’ Cyn dechrau yn y swydd, roedd y cyfranogwyr yn credu y byddent yn chwarae rhan ganolog o ran gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd. Yn y swydd, nid oedd unrhyw un o’r cyfranogwr wedi cyflawni rôl arwain weithredol. Roedd y rhesymau dros hyn yn canolbwyntio ar yr anghydbwysedd o ran statws, gwybodaeth a hyder sy’n gynhenid yn y berthynas pennaeth/proffesiynol-llywodraethwr/amatur. Mae’r ymchwil yn gwneud cyfraniad damcaniaethol a phroffesiynol sy’n helpu i esbonio goddefgarwch llywodraethwyr. Ar hyn o bryd, mae llawer o riant-lywodraethwyr yn rhanddeiliaid mewn enw ond nid yn ymarferol. Mae mynd i’r afael â hyn yn gofyn am ddull radical a strwythuredig fel bod llywodraethu ysgolion Cymru yn gynhwysol, yn egalitaraidd ac yn golegol.