“…Mae Cymdeithas Seicolegol America (2020) yn diffinio trawma fel hyn: 'a disturbing experience that results in significant fear and helplessness, intense enough to have a long-lasting effect and challenge an individual's view of the world as a just, safe, and predictable place'. Mae'n ymateb i ofid difrifol sydd y tu hwnt i allu rhywun i ymdopi, gan newid credoau am ddiogelwch y byd ac yn dinistrio addasiad yr unigolyn i fywyd, ei ymdeimlad o reolaeth, gwarchodaeth, diogelwch, cysylltiad ac ystyr (Brunzel et al, 2015;Herman, 1998;Levine, 2015;van der Kolk, 2015). Mae'n ymddangos bod y cyfan yn fwy cymhleth yng nghyd-destun mudo dan orfod.…”